Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019
Amser:
09.15 -
11.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5510
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Neil Hamilton AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Anne Meikle, WWF Cymru Llinos Price, Woodland Trust Annie Smith, RSPB Filippos Proedrou, Prifysgol De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Neil Hamilton AC i'r Pwyllgor.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne Meikle, Pennaeth World Wildlife Fund (WWF) Cymru; Llinos Price, Swyddog Polisi Cymru, Coed Cadw; ac Annie Smith, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru.
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6 a 7 yn y cyfarfod heddiw.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ar y mater hwn.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i'w gyfarfod ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019 i roi tystiolaeth mewn perthynas â'r Bil. Mae hyn yn amodol ar gyflwyno'r Bil erbyn y dyddiad hwnnw.
7.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Filippos Proedrou, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol De Cymru, ar ymchwil a wnaed ar ran y Cynulliad ar fynd i'r afael â'r bwlch polisi hinsawdd yng Nghymru.